calon
ddramatic cymru
Bu Castell-nedd Port Talbot yng nghanol pethau erioed. Dyma galon De Cymru, lle mae’r dwyrain trefol yn cwrdd â’r gorllewin gwledig.
Roedden ni yng nghanol y Chwyldro Diwydiannol. Ac efallai byddai rhai’n honni mai dyma lle cewch chi hyd i galon y genedl.
Os dringwch i fyny un o’n bryniau, cewch eich hun ar lwyfan, yn gwylio theatr naturiol yr wybren, y môr, y tir a’r bobl islaw. I un cyfeiriad, mae’r gweithwyr dur yn gwau eu ffordd trwy’r strydoedd i gyrraedd eu shifft nesaf. I’r llall, mae beicwyr mynydd yn gwibio i lawr disgyniadau serth yn y cymoedd, wrth eu bodd mewn braw. Yn y pellter, ar hyd yr arfordir, mae teuluoedd yn mwynhau llanast o hufen iâ ac yn oeri’u traed yn ymyl y dŵr.
Prin iawn yw’r lleoedd sy’n cynnig drama ac amrywiaeth fel a welir yma. Mae byd natur yn bodoli ochr yn ochr â gwaith dyn. Mae rhaeadrau’n tywallt i lawr i gwrdd â’r tonnau. Mae ein cymunedau’n ymfalchïo’n fawr yn ein treftadaeth ddiwydiannol, ond maen nhw’n gweithio’n galed i ysgrifennu pennod nesaf ein stori.
Mae rhywbeth am Gastell-nedd Port Talbot yn ysbrydoli pobl i greu pethau hardd yma. Mae’r cymdeithasau, y corau a’r bandiau a ffurfiwyd gan y glowyr a’r gweithwyr ffowndri yn dal i ffynnu er bod y diwydiannau wedi hen ddiflannu. Mae’r doniau creadigol rydyn ni’n eu ‘hallforio’ fel Katherine Jenkins, Michael Sheen ac Anthony Hopkins i gyd yn sôn am eu ‘cartref’ yma.
Mae’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn chwarae yma lawn gymaint yn rhan o’r ardal â’n tirweddau. Mae ein cymeriad digymar i’w weld ymhobman – cyfeillgar, di-flewyn ar dafod, a chwbl Gymreig.
#CalonDdramatig
Richard Burton 100
Oriel
Camwch yn ôl mewn amser gyda'n galeri luniau o fywyd a gwaith Richard Burton – o Gwm Afan i Fryniau Hollywood.
Image Credit: Richard Burton © Richard Burton Archives at Swansea University.
I ddod
Digwyddiadau
Ymunwch â ni i ddathlu 100 Richard Burton! O ddangosiadau ffilm i weithdai celfyddydol a llawer mwy.
Image Credit: Richard Burton at the Miners Arms with his dad (1953) © Raymond Kleboe / Stringer / Getty Images.
Gorffennol
Digwyddiadau
Darllenwch am y digwyddiadau dathlu sydd wedi digwydd yn ystod y Canmlwyddiant.
Image Credit: Richard as a young boy with his family at Penhydd Street © Sian Owen, Richard Burton’s niece.