LLEOLIAD:

Neuadd Gwyn

DYDDIAD:

18/11/2025

TIME:

17:30 (4hrs)

Taith Rithwir Richard Burton

Ymunwch â ni ar daith rithwir ar Lwybrau Richard Burton.

O gysur hygyrch Neuadd Gwyn, bydd ein Arweinydd Taith swyddogol - Griff Harries, yn mynd â chi ar daith hynod ddiddorol o amgylch Pontrhydyfen a Thaibach. Byddwch yn dysgu sut y siapiodd tirwedd a chymunedau'r pentrefi hyn y Richard Walter Jenkins ifanc i ddod yn seren actio rhyngwladol, sef Richard Burton.

Er bod ei seren i'w weld ar Lwybr Enwogion Hollywood, roedd calon Richard Burton bob amser wedi aros yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys lluniau a fideos o leoliadau'r daith, fydd yn eich cludo i fan geni ac ardaloedd e plentyndod Burton. Cewch glywed hanesion am ei fywyd cynnar a gweld y lleoliadau wnaeth ei ysbrydoli.

Mae'n bleser gennym groesawu Côr Meibion Bois Afan, fydd yn rhoi perfformiad byr ar y noson.

Mae tocynnau ar gael am ddim ac mae croeso i bawb. Rydym yn annog pobl i ddod fyddai fel arall yn methu mynd ar y teithiau cerdded tywys oherwydd anghenion symudedd, ynghyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau. Mae digon o seddi ar ben rhesi ac mae byrddau ar gael hefyd i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Mae'r drysau'n agor am 5:30 a'r daith rithwir yn cychwyn am 6:30pm. Bydd y digwyddiad yn gorffen cyn 9:30pm.

Mynnwch eich tocynnau am ddim ar wefan Neuadd Gwyn fan hyn.

Mae’r sgwrs hon yn cynnwys dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere