LLEOLIAD:

DYDDIAD:

01/05/2025

TIME:

All Day

Cystadleuaeth barddoniaeth Brenin Pontrhydyfen

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Richard Burton, rydym yn gwahodd beirdd o bob cefndir i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 'Brenin Pontrhydyfen',cystadleuaeth farddoniaeth, heb dâl cystadlu, i dalu teyrnged i'r actor chwedlonol o Gymru ac i'w wreiddiau.

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddal ysbryd Burton yn cynnwys ei lais awdurdodol, ei enaid barddonol a'i gysylltiad dwfn á Chwm Afan a Phort Talbot, gan wneud hynny drwy gyfrwng barddoniaeth.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwahoddiad i gyflwyno eu gwaith mewn digwyddiad arbennig ar yr 8fed o Orffennaf yng Ngwesty a Bwyty Blanco, Port Talbot lle bydd yr enillydd yn cael ei goroni mewn teyrnged addas i un o eiconau mwyaf Cymru.

Fydd eich geiriau'n ddigonol at yr achlysur? Beth am gystadlu nawr a rhoi llwyfan i'ch barddoniaeth!

Categorïau

Bydd tri chategori oedran ar gyfer oedolion: 18-20, 20-35, 35 a throsodd.

Rheolau

  • Rhaid i'r holl waith fod yn wreiddiol a rhaid mai eich gwaith eich hun ydyw. Gwaherddir defnyddio apiau AI
  • Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw Dydd Iau, 1af o Fai 2025
  • Rhaid i bob cynnig fod â chysylltiad credadwy â Richard Burton
  • Dylai pob cynnig gael ei ysgrifennu yn ffont Calibri (corff) 12
  • Dylai pob cynnig gael ei ysgrifennu mewn dogfen Word i'r ymyl chwith
  • Bydd yr holl gynigion yn cael eu beirniadu gan banel o feirniaid a bydd y 5 gorau o bob grŵp oedran yn cael eu dewis
  • Bydd gofyn i'r awduron sy'n cyrraedd y rownd derfynol gyflwyno eu gwaith yn nigwyddiad 'Brenin Pontrhydyfen'
  • Bydd enillydd pob categori yn cael ei ddewis ar sail eu cyflwyniad o'u cerdd yn ystod y rownd derfynol
  • Rhaid i chi gwrdd â'r categorïau oedran adeg y beirniadu
  • Bydd gwobr o £200 i enillydd pob categori
  • Dylai'r cynigion gael eu hanfon at Poetryamanda@mail.com

Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan RB100, Barddoniaeth Castell-nedd a'r Gair Llafar, Ymddiriedolaeth Elusennol Awduron Ifanc Cheval /Terry Hetherington sydd wedi'i chofrestru gyda'r CGG a Gwesty a Bwyty Blanco, Port Talbot.

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere