LLEOLIAD:

Ganolfan Ymwelwyr Coedwig Afan

DYDDIAD:

18/07/2025

TIME:

11:00

Taith Dywys Richard Burton - Cerdded Hawdd

Camwch yn ôl traed Richard Burton a dewch i adnabod y tirweddau a siapiodd ei fywyd a'i yrfa. Bydd y daith dywys ddiddorol hon yn mynd â chi drwy leoliadau allweddol sy'n gysylltiedig â'r actor chwedlonol o Gymru gan gynnig golwg ar ei fywyd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd y daith yn mynd yn arafach na'r daith arferol heb fethu unrhyw un o'r mannau aros - Bydd amser ychwanegol yn cael ei dreulio yno, gyda seddi lle mae hynny'n bosibl - Mae esboniad manylach o beth i'w ddisgwyl ar gael ar waelod y dudalen hon

 

Dyddiadau Taith: 18fed Gorffennaf.

Amser Gadael / Lleoliad: Cewch groeso i'n cyfarfod ym Mharc Coedwig Afan (SA13 3HG) am 10:50yb. Bydd y bws taith yn gadael yn syth am 11yb ac yn dychwelyd i'r parch o'r car pan fydd y daith wedi'i chwblhau. Bydd ein tywysydd taith, Griff Harries, yn aros amdanoch chi wrth y bws yn y parc car. Mae prisiau parcio ceir wedi cynyddu i £2.75 o £2.5 felly os ydym ar bob rhestr, a allech chi, os gwelwch yn dda, ddiweddaru hynny. Mae parcio am y diwrnod yn costio £2.75.

Hyd: 4 awr.

 Pris: Mae'r daith am ddim.

 

Bydd y daith yn cychwyn ar y Lwybr y Man Geni gan fynd drwy'r cyn bentref glofaol, Pontrhydyfen, lle cafodd Richard Burton ei eni a lle treuliodd ei flynyddoedd cynnar. Cofiwch ddod â'ch camera gan fod y golygfeydd dros y Cwm yn syfrdanol! Bydd y daith wedyn yn mynd ymlaen i Daibach a'r Llwybr Plentyndod lle gallwch weld y llefydd a daniodd ei angerdd dros actio a dod i adnabod y gymuned lle y tyfodd i fyny ac a ysbrydolodd ei gariad at lenyddiaeth.

Drwy gydol y daith, bydd ein harweinydd arbenigol yn dod â bywyd Richard Burton yn fyw, gan rannu ffeithiau a straeon diddorol am ei fagwraeth. Hanner ffordd drwy'r daith bydd egwyl o hanner awr i ymlacio ac i fwynhau coffi a darn o deisen blasus.

Bydd y daith tywys yn para tua 4 awr a bydd angen peth gweithgaredd corfforol i gerdded ar hyd y llwybrau hawdd. Gwisgwch esgidiau addas a dillad sy'n addas i'r tywydd.

 

Gwybodaeth am y daith Cerdded Hawdd. 

Unwaith y bydd y bws yn cyrraedd y lleoliad cyntaf bydd angen cerdded i fyny rhiw fer o'r briffordd i faes parcio Clwb Rygbi Pontrhydyfen. (lleoliad Murlun Richard Burton)

Ar ôl yr arhosiad cyntaf bydd taith o 0.3 i'w cherdded sy'n cynnwys llethr cymedrol ar y cychwyn ac yn mynd dros y draphont ddŵr enwog ymlaen i Gapel Bethel am egwyl o 40 munud a'r cyfle i gael coffi a theisen. Mae toiledau ar gael yma hefyd. Mae 5 gris i fynd i mewn i'r caffi.

Bydd y bws yn eich casglu o'r Capel ac yn mynd â chi i Bort Talbot ar gyfer rhan nesa'r daith. Bydd opsiwn yma i aros ar y bws neu fynd am dro fer i ymweld â chaffi'r Plaza a'r hwb cludiant i weld y meinciau barddoniaeth. Mae toiledau yng Nghaffi'r Plaza hefyd.

Bydd y bws wedyn yn mynd â chi i Daibach gan aros wrth y ganolfan gymunedol ac yna i ymweld â'r tŷ lle tyfodd Richard i fyny.

Bydd taith 0.3 milltir i lawr rhiw graddol i'r arhosiad nesaf ar y daith cyn mynd yn ôl ar y bws fydd yn mynd â chi i'r lleoliad olaf ar y daith ym mharc coffa Taibach. Bydd opsiwn i gerdded i mewn i'r parc a threulio peth amser yma yn darllen am Richard Burton ar arwydd yn y parc.

Bydd y bws wedyn yn mynd â'r grŵp yn ôl i Faes Parcio Parc Coedwig Afan.

Cyfanswm disgwyliedig y daith gerdded: 2200 metr

 

 

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere