LLEOLIAD:

Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe

DYDDIAD:

18/06/2025

TIME:

19:00

O'r Tiber i'r Nîl: Degawd Richard Burton yn yr Hen Fyd

I ddathlu canmlwyddiant geni Richard Burton, bydd y ddarlith ddarluniadol hon yn ystyried ei gyfraniad sylweddol tuag at bortreadu'r hen fyd ar ffilm.

Siaradwr: John J. Johnston

Wedi ei enwebu am Wobr Academi yr Actor Gorau am ei rôl yn The Robe (UDA, Henry Koster, 1953) y ffilm fawr gyntaf i gael ei ffilmio'n defnyddio CinemaScope, roedd Burton yn ymddangos yn ddewis amlwg i bortreadu Alecsander Fawr yn ffilm o'r un enw gan yr awdur, y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr Robert Rossen yn 1956, gan ymddangos ochr yn ochr â chast disglair o sêr o Brydain ac Ewrop. Fodd bynnag, efallai mai ei ran yn chwarae Marc Antony, yn ffilm drawiadol Joseph L. Mankiewicz, Cleopatra (UDA, 1963) sydd wedi aros yn fwyaf amlwg yn nychymyg y cyhoedd.

Ymunwch â ni am drafodaeth ar ddatblygiad, cynhyrchiad a'r derbyniad gafodd y ffilmiau epig hyn ac am gyfraniadau cyfoethog Richard Burton i'r genre.

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere