21.11.2025 – Reardon Smith Theatre, National Museum for Wales, Cardiff (with special Q & A between Michael Sheen and Matthew Rhys).
Oedd enillydd gwobr Emmy, Matthew Rhys, yn dychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd i berfformio Playing Burton: drama un dyn sy'n olrhain bywyd Richard Burton o'i ddechreuadau gostyngedig i uchelfannau disglair Hollywood.
Gan archwilio'r frwydr i gydbwyso enwogrwydd, uchelgais, rhamant a hunaniaeth, mae Playing Burton wedi'i ysgrifennu gan Mark Jenkins a'i gyfarwyddo gan enillydd Gwobr Tony, Bartlett Sher.
Dywedodd Matthew Rhys: “Y rheswm pam roeddwn i eisiau actio oedd oherwydd Richard Burton. Ers gweld ei berfformiad anhygoel yn Look Back in Anger am y tro cyntaf i wrando o hyd ar ei sain o Hamlet ac Under Milk Wood. Torrodd y llwybr i ni i gyd a dangos i ni ei bod hi'n bosibl.”
Oedd y gynhyrchiad yn codi arian ar gyfer National Theatre Wales, gan groesawu mynychwyr theatr i brofi perfformiad anhygoel gan un actor o'r radd flaenaf, mewn teyrnged i un arall.