Digwyddiad Blaenorol - The Comedians + cyflwyniad gan gyd-guradur y tymor, James Ball

Lleoliad: British Film Institute, South Bank, Llundain

Dyddiad: 06.11.25 12pm, 07.12.25 3pm

 

Mae'r addasiad hwn o waith Graham Greene yn gweld Richard Burton yn chwarae rhan Mr Brown, perchennog gwesty yn Haiti yn ystod y cyfnod dychrynllyd pan aeth yr ynys i ddwylo cyfundrefn Duvalier.

Cafodd y Comedians ei ryddhau yn 1967 gyda chast llawn enwau mawr fel Richard Burton, Alex Guiness, Elizabeth Taylor a Peter Ustinov mewn ffilm llawn tensiwn wedi'i gyfarwyddo gan Peter Glenville. Mae Burton yn rhoi perfformiad tawel ond pwerus yn chwarae rhan y perchennog gwesty sy'n cynnal carwriaeth gyfrinachol gyda gwraig diplomydd, yn cael ei phortreadu gyda chryfder cynnil gan Elizabeth Taylor.

Cafodd The Comedians ei gyflwyno gan James Bell, curadur y tymor yn y BFI.

Mae'r ffilm yma'n cynnwys golygfeydd sy'n dangos hiliaeth.

Dolen: https://whatson.bfi.org.uk/Online/default.asp?BOparam::WScontent::loadArticle::permalink=comedians-2025-intro

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere