Digwyddiad Blaenorol - 'How to Build a Richard Burton’: Reflections of a 21st Century Granddaughter, gan Charlotte Frances Burton

Mae Charlotte Frances Burton yn actores, yn gyfarwyddwraig ac yn awdur o Ddinas Efrog Newydd, ac yn cynrychioli’r teulu ar gyfer Richard Burton 100. Ar hyn o bryd mae’n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd.

Yn ei darlith, oedd Charlotte yn myfyrio ar ei safbwyntiau ynghylch etifeddiaeth Richard Burton yn yr 21ain ganrif. Oedd hi’n archwilio ei blentyndod, ei esgyniad i enwogrwydd, a’i fywyd personol, ynghyd â’r modd y mae ei stori wedi siapio persbectif wyres a anwyd ar ôl ei farwolaeth.

Wedi’r ddarlith oedd Charlotte yn ymuno mewn sgwrs gyda’i mam, yr actores adnabyddus Kate Burton, merch Richard Burton. Mae Kate yn cael ei chydnabod yn eang am ei gwaith ar lwyfan ac ar sgrîn, gan gynnwys Grey’s Anatomy, Scandal, The Ice Storm, yn ogystal â’i pherfformiadau ar Broadway.

Mae Darlith Richard Burton yn rhan o gyfres flynyddol o ddigwyddiadau mawreddog a arweinir gan Ganolfan Richard Burton mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.

 

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere