Lleoliad: British Film Institute, South Bank, Llundain
Dyddiadau: 06.11.25 12pm, 15.12.25 6:20pm
Wedi'i gyflwyno gan Lucy Bolton, Athro Ffilm ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Llundain y Frenhines Mary, mae'r dangosiad hwn o 1984 yn gwahodd cynulleidfaoedd i ddod i adnabod ffilm olaf Burton.
Cafodd yr addasiad o nofel ddystopaidd Orwell, a ddiffiniodd y genre, ei ryddhau yn 1984 gyda Burton yn chwarae rhan swyddog yr Inner Party, O'Brien. Cafodd y ffilm ei saethu dros yr union gyfnod gafodd ei nodi gan Orwel a'i ryddhau ddau fis ar ôl marwolaeth Burton yn 58 mlwydd oed. Mewn perfformiad iasol, coeth a sobreiddiol, roedd portread Burton yn ffarwel emosiynol i'w yrfa ryfeddol.