Hanes

Photo Credit: Richard Burton in Doctor Faustus (1967) © Album / Alamy Stock Photo.

Hanes Richard Burton

Ganwyd Richard Walter Jenkins ar 10fed Tachwedd 1925 ym Mhontrhydyfen, pentref yn swatio mewn cwm tawel y tu allan i Bort Talbot; Richard oedd y deuddegfed o dri ar ddeg o blant.

Dim ond dwy oed oedd Richard, gafodd ei enwi ar ôl ei dad a'i dad-cu, pan gollodd ei fam i septicaemia. Glöwr oedd tad Richard, 'Dic Bach', a daeth yn alcoholig yn fuan wedi colli ei wraig, gan adael Richard i gael fagu gan ei chwaer hŷn Cecilia a'i gŵr Elfed. Roedd eu cartref yn Taibach, Port Talbot, ac felly symudodd Richard yn agosach at galon y dref ddur. Yn siaradwr Cymraeg balch, mwynhaodd Richard blentyndod llawen yn y gymuned glos.

Yn 11 oed, pasiodd Richard arholiad yr ysgoloriaeth i fod y cyntaf yn ei deulu i gael ei dderbyn i'r Ysgol Ramadeg leol. Yma y dechreuodd actio mewn cynyrchiadau ysgol, gan gynnwys rôl yr Athro Higgins yn Pygmalion. Yn bwysicach fyth, dyma lle y cyfarfu â'r athro a fyddai'n newid ei fywyd: Mr Philip Burton.

Cefnogodd Philip Burton freuddwydion Richard o fod yn actor, gan ei helpu i hyfforddi ei lais i feddalu ei acen Gymraeg pan oedd yn siarad Saesneg. Byddai'r ddau yn aml yn mynd i ben Mynydd Margam fel y gallai Richard ymarfer ei lais.

Er mwyn helpu Richard ymhellach, yn 1943 daeth Philip Burton yn warcheidwad cyfreithiol iddo – a daeth Richard Jenkins yn Richard Burton. Roedd bod yn 'fab i athro ysgol' wedi gwella ei gyfleoedd i fynd i Brifysgol Rhydychen, lle treuliodd chwe mis fel rhan o gwrs hyfforddi'r RAF gan berfformio mewn llawer o gynyrchiadau. Tra roedd yn Rhydychen, anfonodd Philip Burton hysbyseb o'r Western Mail ato oedd yn chwilio am actorion ifanc o Gymru, ac arweiniodd hyn at ymddangosiad cyntaf Burton ar y llwyfan yn serennu yn The Druid’s Rest yn Theatr St Martin's yn Llundain yn 1943.

Ar ôl cael ei ddadfyddino o'r RAF yn 1947, perfformiodd Burton yn The Last Days of Dolwyn a ddarlledwyd ym mis Ebrill 1949, wedi'i wnaed gan British Lion Films. Ar y set, cyfarfu â'i wraig gyntaf, Sybil Williams.

Cyn bo hir, roedd seren Burton ar gynnydd: symudodd ef a Sybil i Lundain, lle dechreuodd ymddangos yn theatrau'r West End a phortreadu arwyr a dihirod Shakespeare yn Theatr Goffa Stratford. Yn 1953 gwrthododd gontract gwerth miliwn o ddoleri (sy'n cyfateb i oddeutu $11m heddiw) i ennill £150 yr wythnos yn perfformio Shakespeare yn Theatr Old Vic Llundain.

Erbyn y 1950au roedd yn dod yn brif ddyn ym myd y theatr ym Mhrydain, a daeth yn rhan o hanes darlledu pan chwaraeodd y Llais Cyntaf yn Under Milk WoodRoedd sain addfwyn a cherddorol ei lais yn ei gadarnhau fel perfformiwr llais eithriadol, ac mae cysylltiad agos rhwng ei lais â gwaith Thomas hyd y dydd heddiw. 

Wrth iddo barhau i lwyddo, ni allai Burton anwybyddu'r galwadau o Hollywood. Yn 1952 serennodd yn ei ffilm stiwdio gyntaf, My Cousin Rachela enillodd enwebiad Oscar iddo am yr Actor Cefnogol Gorau. Daeth rolau wedyn yn Desert Rats, The Robe, Alexander the Great a Look Back in Anger ond y ffilm Cleopatra ei fywyd a'i yrfa. Yn serennu gyferbyn ag Elizabeth Taylor, a fyddai'n dod yn ail wraig iddo, daeth Burton yn enw cyfarwydd i bawb pan gafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf. 

Hyd yn oed wrth iddo ddod yn rhan o'r pâr enwocaf yn y byd, ni wnaeth Burton anghofio ei wreiddiau Cymreig. Byddai'n dod yn ôl yn rheolaidd i Taibach ym Mhort Talbot, gan enwi ei gartref yn y Swistir 'Le Pays de Galles' hyd yn oed, pan symudodd i ranbarth Alpaidd Céligny yn 1957.

Enillodd ei yrfa ffilm – gan gynnwys perfformiadau yn The VIPs, Becket, The Night of the Iguana a Who’s Afraid of Virginia Wolf? - saith enwebiad Oscar iddo. Tra parhaodd ei yrfa i ffynnu, byddai'n gweud amser i'w deulu – gan fagu ei ferched Kate, Maria, a Jessica, a'i lys-feibion Michael a Christopher.

After a ten-year marriage to Taylor, the two separated and Burton married Susan Hunt, a British model.

Yn 1976, yr flwyddyn y priododd Hunt, aeth Burton i Broadway i serennu yn Equus a pherfformio yn y ffilm o'r ddrama. Daeth yn ôl i Gymru hefyd, i ymweld â'r Miners Arms ym Mhontrhydyfen (cartref Clwb Rygbi Pontrhydyfen erbyn hyn) lle agorodd ystafell er cof am ei dad. Yn 1982, cyfarfu â Sally Hay, ei bedwaredd wraig, a phriododd y ddau ym mis Gorffennaf 1983.

Er gwaethaf dirywiad yn ei iechyd yn gynnar yn yr 1980au, parhaodd Burton i berfformio. Roedd ei rôl olaf gyferbyn â'i ferch hynaf Kate, yn y gyfres deledu Ellis Island.

Bu farw gartref yn y Swistir, o waedlif sydyn ar yr ymennydd, ym mis Awst 1984. Cafodd ei gladdu yn gwisgo ei hoff liw, coch, gyda gweithiau ei hoff fardd Dylan Thomas wrth ei ochr.

Yn y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd yng Nghapel Pontrhydyfen daeth miloedd o fynychwyr i anrhydeddu'r seren oedd wedi parhau i fod yn hynod falch o'i dreftadaeth Gymreig drwy gydol ei oes. Dywedir iddo ddweud 'Rwy'n credu bod [fy llais] wedi'i fuddsoddi gyda glo mân a glaw neu rywbeth – llais fy mhobl yw'r llais'.

Mae perfformiadau llais, llwyfan a sgrin Richard Burton wedi ennill statws eicon iddo: gan fynd â Chymru i'r byd fel perfformiwr yn Hollywood. Ar 1af Mawrth 2013, rhoddodd cyd-seren ffilm o Bort Talbot, Michael Sheen, araith gyffrous wrth iddo ddadorchuddio'r deyrnged i Richard Burton ar Walk of Fame Hollywood, yn dathlu etifeddiaeth a chyfraniad bythol Burton i gelfyddydau rhyngwladol.

cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere