Richard Burton

Canmlwyddian

Dathlu 100 mlynedd ers geni Richard Burton, actor rhyngwladol enwog a 'llais Cymru'

Yn 1925, ganwyd Richard Burton ym mhentref Cwmafan, Pontrhydyfen, Castell-nedd Port Talbot.

Yn 2025, dathlwyd canmlwyddiant geni'r actor byd-enwog gyda rhaglen o ddigwyddiadau a arddangosodd ei etifeddiaeth, ac a rannodd sut gwnaeth ei waith ysbrydoli’r ysbryd creadigol sy'n rhedeg yn ddwfn yn y rhanbarth hwn.
 
Wedi’i adnabod fel Calon Ddramatig Cymru am ei hegni creadigol, ei thirweddau cyferbyniol, a pherfformwyr enwog sydd yn galw'r ardal gartref, gwnaeth Castell-nedd Port Talbot cynnal digwyddiadau celfyddydol, perfformiadau, arddangosfeydd, ffilmiau, gweithdai, darlleniadau a llawer mwy. Gwnaeth y dathliad ybrydoli a diddanu ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd, gan wahodd pawb i ddarganfod sawl ochr o 'lais ei genhedlaeth'.
 
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu ymwelwyr a phobl leol i ddarganfod bywyd ac etifeddiaeth y Cymro balch a ddaeth yn un o actorion mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif.
cyWelsh
Processing...
Thank you! Your subscription has been confirmed. You'll hear from us soon.
ErrorHere